Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 24 Mawrth 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
11188


333

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg

Dechreuodd yr eitem am 14.30

Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021

Dechreuodd yr eitem am 15.21

NDM7681 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI4>

<AI5>

4       Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 - Tynnwyd yn ôl

Tynnwyd yr eitem yn ôl

</AI5>

<AI6>

5       Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Dechreuodd yr eitem am 15.25

NDM7678 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1, Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

6       Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

</AI7>

<AI8>

7       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi

Dechreuodd yr eitem am 15.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7668 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog 26C newydd, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

4

55

Derbyniwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

8       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Dechreuodd yr eitem am 15.38

NDM7669 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI9>

<AI10>

9       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd

Dechreuodd yr eitem am 15.42

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7670 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 6, 7, 8 a 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

1

4

55

Derbyniwyd y cynnig.

</AI10>

<AI11>

10    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice

Dechreuodd yr eitem am 15.48

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7671 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 13.15 a 17.28, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

4

55

Derbyniwyd y cynnig.

</AI11>

<AI12>

11    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adalw'r Senedd

Dechreuodd yr eitem am 15.52

NDM7672 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Adalw’r Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog 12.3A newydd, fel y nodir yn Atodiad A  i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

.

</AI12>

<AI13>

12    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 15.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7673 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

6

55

Derbyniwyd y cynnig.

</AI13>

<AI14>

13    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol

Dechreuodd yr eitem am 15.56

NDM7674 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 1, 11 a 20 fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI14>

<AI15>

14    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro

Dechreuodd yr eitem am 16.01

NDM7675 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 12 a 34, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol Sefydlog 34.14A, yn dilyn etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI15>

<AI16>

15    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol

Dechreuodd yr eitem am 16.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7676 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

17

55

Derbyniwyd y cynnig.

</AI16>

<AI17>

16    Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad-Adroddiad 05-21

Dechreuodd yr eitem am 16.23

NDM7679 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 05-21 a osodwyd gerbron y Senedd ar 17 Mawrth 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI17>

<AI18>

17    Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd

Dechreuodd yr eitem am 16.27

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7680 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad dyddiedig 17 Mawrth 2021 (“yr adroddiad”).

2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021, i ddod i rym ar ddechrau'r chweched Senedd.

3. Yn nodi’r canllawiau sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymddygiad a nodir yn atodiad A i’r adroddiad.

Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd y cynnig.

</AI18>

<AI19>

18    Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol

Dechreuodd yr eitem am 16.31

NDM7682 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2021.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021.

Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor

Ymateb Cyllid a Thollau EM i adroddiad y Pwyllgor(Saesneg yn unig)

Llythyr gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys at y Pwyllgor Cyllid (Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI19>

<AI20>

19    Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn

Dechreuodd yr eitem am 17.13

NDM7667 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yn hyn', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI20>

<AI21>

20    Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Archwilio datganoli darlledu: sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?

Dechreuodd yr eitem am 17.37

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7666 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Edrych ar ddatganoli darlledu: sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth 2021.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

4

54

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI21>

<AI22>

21    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Dyfodol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 18.07

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7683 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod llywodraethau olynol Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru.

2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud o ran yr economi.

3. Yn nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben.

4. Yn nodi ymhellach bod cyn Brif Weinidog Cymru hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl ar addysg.

5. Yn cydnabod, er mwyn ailadeiladu Cymru, fod angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6 Mai 2021, a fydd yn darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys:

BBC News - Theresa May claims Welsh Labour betrayed generation of children - 18 Mai 2018 (Saesneg yn unig)

BBC News - Labour minister: 'We don't know what we're doing on economy' - 25 Mehefin 2019 (Saesneg yn unig)

BBC News- Covid: Cancer delays 'could cause 2,000 deaths in Wales' - 9 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig)

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

41

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:

a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;

b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd;

c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;

d)  Ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;

e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r rhai sy’n rhentu.

2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

26

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan, benderfynu ar ein dyfodol.

Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7683 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:

a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;

b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd;

c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;

d)  Ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;

e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r rhai sy’n rhentu.

2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.

Adroddiad Blynyddol Y Rhaglen Lywodraethu

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

 

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

</AI22>

<AI23>

22    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.44

NDM7677 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Hosbisau plant - cronfa achub i Gymru.

</AI23>

<AI24>

23    Cyfnod pleidleisio

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.07 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 19.15

</AI24>

<AI25>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI25>

<AI26>

24    Datganiadau i Gloi

Dechreuodd yr eitem am 19.24

</AI26>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 19.51

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>